Mae digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal heddiw i longyfarch athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd Sir y Fflint a enillodd fedalau yn Llundain.

Cipiodd Jade Jones, sy’n dod o dre’r Fflint, fedal aur yng nghystadleuaeth Taekwondo’r Gemau Olympaidd, ac enillodd Bev Jones o Shotton y fedal efydd am daflu’r ddisgen yn y Gemau Paralympaidd.

Mae Amy Brierly (pêl foli ar lawr) a Scott Robertson (tenis bwrdd) ymhlith y rhai eraill sy’n cael eu hanrhydeddu.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Neuadd y Sir Yr Wyddgrug.

Cafodd yr holl athletwyr o Gymru a fu’n cystadlu yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd eu croesawu adref yng Nghaerdydd ar ddechrau’r mis.

Cafodd Jade Jones ei chroesawu adref yn swyddogol i’r Fflint fis diwethaf.

Cafodd Bev Jones ddathliad yr wythnos diwethaf a gafodd ei drefnu gan Fforwm Anableddau Sir y Fflint.

Bydd y rhwyfwr Tom James, a enillodd fedal aur arall yn Llundain ar ôl ei lwyddiant yn Beijing yn 2008, yn cael ei anrhydeddu ddydd Gwener â rhyddid tref Wrecsam.