Khalid
Mae elusen Achub y Plant wedi rhybuddio bod plant Syria yn dioddef o drawma enbyd yn sgil yr erchyllterau y maen nhw wedi eu gweld yn y wlad.

Mae nifer sylweddol o blant Syria wedi cael eu harteithio ac wedi gweld eu perthnasau yn cael eu llofruddio.

Bu’r elusen yn helpu plant i ymdopi ag effeithiau seicolegol y rhyfela, ac maen nhw’n cynnig cefnogaeth arbenigol i blant sy’n hunan-anafu, yn cael hunllefau ac yn gwlychu’r gwely.

Mae Achub y Plant hefyd wedi annog y Cenhedloedd Unedig i gadw cofnod o’r holl achosion o dorri hawliau plant.

Fe fydd Untold Atrocities, sy’n cofnodi hanesion plant a’r hyn y maen nhw wedi ei weld yn Syria, yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Yn un o’r cofnodion, dywed Hassan, sy’n 14 oed: “Roedd cyrff y meirw a hefyd pobl wedi eu hanafu wedi eu gwasgaru dros y llawr. Fe ddes i o hyd i rannau o gyrff blith draphlith dros ei gilydd. Roedd cwn yn bwyta’r cyrff meirw am ddau ddiwrnod wedi’r gyflafan.”

Dywed Khalid, sy’n 15, oed: “Cefais fy hongian oddi ar y nenfwd o’m garddyrnau, gyda’m traed ddim yn cyffwrdd y llawr. Ac wedyn fe ges i fy nghuro yn ddidrugaredd.”

‘Cefnogaeth emosiynol’

Does gan Achub y Plant ddim hawl i gael mynediad i Syria.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rhyngwladol Amddiffyn Plant Achub y Plant, Richard Powell: “Ni ddylai unrhyw blentyn weld yr erchyllterau sydd wedi eu disgrifio a’u cofnodi yn ddyddiol gan ein staff ar lawr gwlad – straeon sy’n cofnodi artaith, llofruddio a byw mewn ofn.

“Mae’r plant hyn angen cefnogaeth emosiynol arbenigol i allu dod i delerau a delio gyda’r profiadau dirdynnol yma, ac mae angen i’w straeon gael eu clywed a’u cofnodi fel y gall y rhai sy’n gyfrifol am y troseddau gwarthus yma gael eu dwyn i gyfrif.”

Mae Achub y Plant wedi eu lleoli mewn nifer o wledydd sydd ar y ffin â Syria.

Mae’r elusen wedi lansio apêl i helpu i ariannu ei gwaith yn yr ardaloedd hyn.