Maes awyr Caerdydd
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi cyhoeddi cynlluniau newydd ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, sy’n cynnwys llwybr rhwng y brifddinas a Malaga yn Sbaen.

Cwmni awyr Vueling fydd yn rheoli’r llwybr newydd y flwyddyn nesaf, fel rhan o ddatblygiad i feithrin cysylltiadau â dinas Barcelona yng Nghatalwnia.

Mae yna gynllun i ddenu twristiaid o Awstria i Gymru drwy’r cwmni Prima.

Dywedodd Carwyn Jones fod yna fwriad i ail-frandio’r maes awyr erbyn haf 2013, ar ôl honni’n gynharach eleni ei fod yn creu argraff wael ar dwristiaid.

Ychwanegodd fod y cynlluniau’n rhan o ymgais i roi hwb i’r economi.

Dywedodd: “Mae’r ffigurau ar gyfer buddsoddiad o dramor yn gwella. Fe wnaethon nhw wella yn 2011 o 2010.

“Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw parhau i wella ein presenoldeb dramor. Dydy hynny ddim yn golygu agor llawer o swyddfeydd newydd dramor, ond mae’n golygu cyd-leoli staff gydag UKTI [Masnach a Buddsoddiad y Deyrnas Unedig].

“Bydd gan UKTI o hyd lawer iawn mwy o adnoddau nag y bydd gennym ni.”

“Rwyf am i Faes Awyr Caerdydd wireddu ei botensial i fod yn llwyddiant modern ag iddo gysylltiadau da wrth galon ein hisadeiledd cenedlaethol.

“Rydym yn cydweithio â’r perchnogion a’r rheini a chanddynt ddiddordeb i’w helpu i wireddu ei botensial.

“Gallaf ddweud ein bod ni wedi cymeradwyo rhaglen i ail-frandio ac adnewyddu’r maes awyr mewn da bryd ar gyfer tymor yr haf 2013.”