Andrew Mitchell
Mae Downing Street wedi gwrthod galwadau i gynnal ymchwiliad i’r Brif Chwip Andrew Mitchell ar ôl iddo ymddiheuro’n gyhoeddus i blismyn am regi arnyn nhw yn Downing Street.

Dywedodd llefarydd bod y Prif Weinidog yn credu bod Andrew Mitchell wedi gwneud y peth iawn drwy ymddiheuro am ei ymddygiad ac y dylai hynny fod yn ddiwedd ar y mater.

Ond yn ôl cadeirydd  Ffederasiwn yr Heddlu Metropolitan, John Tully, mae Andrew Mitchell wedi cyhuddo’r plismyn o ddweud celwydd ac mae’n galw ar David Cameron i gynnal ymchwiliad.

Mae’r Blaid Lafur hefyd wedi galw am ymchwiliad tra bod y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi dweud y dylai Andrew Mitchell esbonio “yn llawn” yr hyn ddigwyddodd pan gafodd ei atal gan blismyn rhag seiclo drwy glwydi Downing Street.

Yn ôl adroddiadau ym mhapur The Sun, sy’n honni eu bod wedi gweld adroddiad yr heddlu i’r mater, roedd Andrew Mitchell wedi galw’r plismyn yn “plebs” yn ogystal â rhegi arnyn nhw.

Ond bore ma, roedd Andrew Mitchell yn mynnu nad oedd wedi defnyddio’r gair “plebs” a dywedodd bod adroddiadau am ei  sylwadau yn anghywir. Ond mae wedi cydnabod nad oedd wedi dangos “y parch y dylwn i fod wedi” yn ystod yr anghydfod.