Mae deiseb yn cael ei gyflwyno i’r Cynulliad er mwyn ail-agor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.

Agorodd y rheilffordd ym 1867, ond daeth i ben ym 1965 oherwydd llifogydd cyson.

Cafodd llaeth ei gludo ar y rheilffordd cyn ei chau’n derfynol ym 1973.

Roedd y rheilffordd yng Nghaerfyrddin yn gyswllt ar y daith rhwng Paddington yn Llundain ac Abergwaun.

Roedd y rheilffordd hefyd yn gwasanaethu trefi Aberaeron, Llandeilo a Chastell Newydd Emlyn.

Dywedodd yr arbenigwr ar hanes rheilffyrdd, Gwyn Briwnant Jones: “Y broblem fwyaf gyda rhywbeth fel hyn yw arian.

“Mae cymaint o’r llwybr wedi dirywio, a byddai’n rhaid cael cynllun busnes.”

Roedd y gwasanaeth rhwng y ddwy dref ar ei gryfaf o’r 1920au hyd at y 1940au, pan oedd cyflwr yr heolydd yn wael.

Ychwanegodd Gwyn Briwnant Jones: “Ddaru nhw ddim manteisio ar eu cyfle bryd hynny. Wnaethon nhw ddim edrych i’r dyfodol.”

“Byddwn i’n sicr yn croesawu ail-gyflwyno’r gwasanaeth rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, dim ond bod yna gynllun pendant a chadarn a phwrpasol yn ei le yn gyntaf.”