Mae dau o bobl wedi marw yn ystod gwrthdaro rhwng yr heddlu a glowyr sydd ar streic yn Ne Affrica, gan gynnwys cynghorydd lleol nad oedd yn rhan o’r gwrthdaro.

Roedd cynghorydd yr ANC Paulina Masuhlo yn siopa yn Wonderkop ddydd Sadwrn, lle mae nifer o lowyr yn byw, pan ddechreuodd yr heddlu danio gynau at nifer o ferched.

Cafodd Paulina Masuhlo ei saethu yn ei stumog a’i choes a chafodd ei rhuthro i’r ysbyty ond bu farw ddoe. Dywed yr heddlu eu bod yn ymchwilio i’w marwolaeth

Yn ôl yr heddlu roedden nhw’n  cynnal cyrch ar y dref er mwyn diarfogi gweithwyr gwaith platinwm Lonmin sydd wedi bod ar streic.

Ddoe, bu’r heddlu’n tanio bwledi rwber, nwy dagrau a grenadau er mwyn  ceisio atal gorymdaith gan filoedd o streicwyr yng ngweithfeydd Amplats ger Rustenburg, sy’n berchen i un o gynhyrchwyr platinwm fwyaf y byd, Anglo American Platinum.

Yn ôl arweinydd y streic yn Amplats, Evans Ramokga, cafodd un o’r glowyr ei daro gan gar yr heddlu a’i lusgo gan y car cyn iddo storio. Dywedodd bod y dyn wedi marw dros nos yn yr ysbyty.

Mae 47 o bobl bellach wedi marw yn y gwrthdaro rhwng streicwyr a’r heddlu ers i’r trafferthion ddechrau ar 16 Awst.

Fe gytunodd Lonmin ddydd Mawrth i roi codiad cyflog o 22% i’r gweithwyr gan ddod a’r streic i ben.

Dywed arweinwyr undeb bod hynny’n gosod cynsail i lowyr eraill fynnu gwell cyflogau.