Lleoliad yr ynysoedd
Mae’r ffrae rhwng llywodraethau Japan a China am berchnogaeth ynysoedd ym môr Dwyrain China yn mynd o ddrwg i waeth.

Cynhaliwyd protestiadau gwrth Japaneiaidd mewn nifer o ddinasoedd yn China ddoe a heddiw bu’n rhaid i’r heddlu atal protestwyr rhag ymosod ar llysgenhadaeth Japan yn Bejing.

Mae busnesau a cheir Japaneaidd yn China hefyd wedi cael eu targedu gan brotestwyr.

Mae’r anghydfod am yr ynysoedd, sy’n cael eu galw yn Senkaku yn Japan a Diaoyu yn China, wedi bodoli ers blynyddoedd. Mae Taiwan hefyd yn eu hawlio fel rhan o’i thiriogaeth.

Fe brynwyd yr ynysoedd yn ddiweddar oddi wrth eu perchnogion Japaneaidd gan lywodraeth Japan sydd yn awyddus i’w datblygu. Mae maes nwy enfawr Chunxiao yn weddol agos i’r ynysoedd.

Fe anfonodd llywodraeth China chwech o longau gwyliadwriaeth i’r ardal mewn ymateb i’r pryniant.

Mae’n gyfnod sensitif yn wleidyddol yn y ddwy wlad gan fod newid ar y gorwel yn arweinyddiaeth China a Japan yn paratoi am etholiad cyffredinol.

Dywed rhai arbenigwyr hefyd bod natur adroddiadau yn y wasg ac ar y cyfryngau yn y ddwy wlad yn gwneud drwg llawer gwaeth.