Mae 10 o bobl wedi eu lladd a 4 wedi eu hanafu mewn damwain awyren yn Rwsia, yn ôl swyddogion yn y wlad.
Roedd yr awyren Antonov-28 wedi plymio i’r ddaear ger tref Palana yng ngorllewin Kamchatka, 4,200 o filltiroedd o Mosgo.
Roedd 14 o bobl ar fwrdd yr awyren gan gynnwys dau o blant a dau aelod o’r criw.
Credir bod nam peirianyddol yn gyfrifol am y ddamwain.
Roedd yr awyren yn hedfan o Petropavlovsk-Kamchatsky i Palana.