Mae dau dân mewn dwy ffatri ym Mhacistan wedi lladd o leiaf 128 o bobol, medd yr awdurdodau yno.
Mae tân mewn ffatri ddillad yn ninas ddeheuol Karachi wedi lladd 103, tra bod tân mewn ffatri esgidiau yn ninas ddwyreiniol Lahore wedi lladd 25.
Dechreuodd y ddau dân neithiwr ac mae diffoddwyr yn dal i geisio diffodd y tân yn Karachi heddiw.
Yn ôl penaethiaid y gwasanaeth tân bu farw’r mwyafrif o bobol yn y ffatri ddillad o ganlyniad i gael eu mygu wrth i bobol fethu â dianc o’r llawr isaf.
Yn ôl swyddogion yn yr Ysbyty Ddinesig yn Karachi roedd y cyrff wedi cael eu llosgi i’r graddau nad oedd hi’n bosib dweud p’un a oedden nhw’n ddynion neu’n ferched.
Dywedodd un gweithiwr, Mohammad Ilyas, fod pelen o dân wedi saethu lan y grisiau.
“Neidiais o fy sedd a rhedeg at y ffenest, ond roedd bariau haearn yn ein hatal ni rhag dianc. Cymrodd rhai ohonom ni offer a pheiriannau er mwyn torri’r bariau,” meddai Mohammad Ilyas, a anafodd ei goes wrth neidio o’r ffenest.
Yn Lahore, dywedodd diffoddwyr tân fod prinder allanfeydd wedi cyfrannu at nifer y marwolaethau yn y ffatri esgidiau.
Roedd y ffatri wedi ei lleoli yn anghyfreithlon mewn ardal breswyl yn y ddinas.
Dechreuodd y tân ar ôl i bobol ddechrau generadur ar ôl i’r trydan ddiffodd. Roedd gwreichion o’r generadur wedi cynnau cemegau oedd yn cael eu defnyddio i drin yr esgidiau.
Mae Prif Weinidog Pacistan, Raja Pervaiz Ashraf, wedi mynegi syndod a galar yn dilyn y ddau dân.