Mae llys yn Israel wedi dweud nad oedd byddin Israel ar fai am farwolaeth ymgyrchydd o America yn 2003.

Bu farw Rachel Corrie yn Llain Gaza ar ôl cael ei gwasgu gan jac codi baw oedd yn berchen i fyddin Israel.

Dywedodd y gyrrwr nad oedd wedi gweld Rachel Corrie, oedd yn ymgyrchydd o blaid hawliau’r Palestiniaid, a daeth ymchwiliad gan fyddin Israel i’r casgliad mai damwain ydoedd.

Nid oedd rhieni Rachel Corrie yn fodlon gydag ymchwiliad y fyddin a chymron nhw achos sifil yn erbyn y fyddin yn 2005.

Mae llys yn Haifa wedi gwrthod eu cais am iawndal symbolaidd o un ddoler. Dywedodd y barnwr nad oedd y gyrrwr wedi gweld yr ymgyrchydd ac y dylai Rachel Corrie fod wedi symud oddi yno.

Yn ôl ymgyrchwyr oedd yn dystion i’r digwyddiad roedd Rachel Corrie yn gwisgo cot lachar ac ni allai’r gyrrwr fod wedi methu â’i gweld hi.

Roedd ail wrthryfel, neu intifada, yn digwydd ar y pryd ac roedd byddin Israel yn cynnal ymgyrch o ddinistrio cartrefi Palestiniaid er mwyn dial am ymosodiadau.