Mae Philippine Airlines wedi cyhoeddi ei fod wedi arwyddo cytundeb gwerth £4.4 biliwn i brynu 54 o awyrennau Airbus.

Mae adenydd yr awyrennau yn cael eu cynhyrchu yn ffatri Airbus ym Mrychdyn yn Sir y Fflint.

Mae’n rhan o gynlluniau uchelgeisiol y cwmni i ddarparu awyrennau newydd ar gyfer cludo teithwyr a nwyddau yn Asia, y Dwyrain Canol ac Awstralia.

Dywedodd llywydd Philippine Airlines Ramon Ang y bydd yr awyrennau A330-300 a A321 yn cyrraedd ym mis Ionawr. Fe fydd gweddill yr awyrennau yn cael eu cyflwyno o fewn y tair blynedd nesaf.

Ychwanegodd bod Philippine Airlines yn bwriadu prynu 46 yn rhagor o awyrennau gan Airbus a chwmnïau eraill, gan gynnwys Boeing.