Gamal Mubarakm ffrind mawr Ahmed Ezz (Fforwm Economaidd y Byd)
Mae dau o gyn-weinidogion llywodraeth yr Aifft ac un gŵr busnes a fu’n amlwg iawn ym mhrif blaid y wlad wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lygredd.

Mae’r cyn-Weinidog Tai, Ahmed Maghrabi, y cyn-Weinidog Twristiaeth, Zuheir Garana, ac Ahmed Ezz yn cael eu dal gan yr heddlu am bythefnos o leia’ tra bydd swyddogion yn ymchwilio i’r honiadau.

Roedd y dyn busnes, sydd wedi gwneud ei arian yn y diwydiant dur, wedi bod yn aelod seneddol ac yn un o ffigurau amlwg plaid y llywodraeth, o dan arweiniad y cyn-Arlywydd, Hosni Mubarak.

Yn 2006, roedd yn berchen ar tua 70% o ddiwydiant dur a haearn yr Aifft ac mae’n ffrind agos i fab y cyn-Arlywydd, Gamal Mubarak.

Roedd y tri eisoes wedi eu gwahardd rhag teithio dramor a’u hatal rhag defnyddio’u hasedau – camau sydd fel rheol yn arwain at ymchwiliad troseddol ac achos llys yn yr Aifft.