Lance Armstrong
Mae’r seiclwr byd-enwog, Lance Armstrong, wedi penderfynu peidio ymladd honiadau o gymryd cyffuriau.
Mae Asiantaeth Gwrth-Ddopio’r Unol Daleithiau (USADA) wedi bod yn ymchwilio i’r seiclwr ers peth amser.
Yn ôl llefarydd ar ran yr USADA, mae Lance Armstrong yn wynebu colli popeth y mae wedi’i ennill yn ystod ei yrfa yn dilyn ei benderfyniad.
Mae disgwyl iddo hefyd gael ei wahardd rhag seiclo yn gystadleuol yn barhaol.
Mae Lance Armstorng, 40, wedi gwadu ei fod yn defnyddio cyffuriau.
Er nad yw erioed wedi methu prawf cyffuriau, mae sawl achos wedi cael ei ddwyn yn ei erbyn.
Datganiad
“Mae ‘na adeg yn dod ym mywyd pob dyn lle mae’n rhaid iddo ddweud, ‘digon yw digon’. I mi, nawr yw’r amser,” meddai Lance Armstrong.
“Rwyf wedi bod yn delio gyda honiadau o dwyllo ac o fod â mantais annheg yn ennill y Daith saith gwaith ers 1999,” ychwanegodd.
Dywedodd nad oedd ymchwiliad USADA wedi ceisio “dod i wybod y gwir neu i lanhau seiclo, ond yn hytrach i fy nghosbi i ar unrhyw gost.”
Yn y datganiad, dywedodd nad oedd gan USADA “unrhyw hawl” cymryd teitlau’r saith Tour de France oddi wrtho.
Canser
Ym mis Hydref 1996, cafodd Lance Armstrong wybod fod ganddo ganser y ceilliau, ac fe ledaenodd drwy ei gorff. Aeth ymlaen i sefydlu’r Lance Armstrong Foundation for Cancer.
Flwyddyn yn ddiweddarach, fodd bynnag, cafodd wybod bod y driniaeth ar ei ymennydd a’r cemotherapi wedi bod yn llwyddiannus.
Lance Armstrong yw’r seiclwr mwyaf llwyddiannus yn hanes y Tour de France – fe enillodd bob ras rhwng 1999 a 2005.
Fe wnaeth yr Americanwr ymddeol yn 2011 am yr ail waith.