Luke Rowe yn mwynhayu'r Post Danmark Rundt (llun o wefan Team Sky)
Gorffennodd y seiclwr ifanc o Gymru, Luke Rowe, yn bumed yn ras y Post Danmark Rundt heddiw.

Roedd wedi gorffen yn bedwerydd yn Nenmarc ddoe, gan hawlio siwmper wen y seiclwr ifanc gorau yn y ras.

Mae’r canlyniad heddiw yn golygu fod y gŵr ifanc sy’n rasio i dîm Sky yn cadw gafael ar y siwmper wen am ddiwrnod arall o leiaf.

Yr Almaenwr Andre Greipel (Lotto-Belisol) enillodd y cymal yn Aarhus heddiw, a hynny’n dilyn buddugoliaeth ddoe hefyd.

Bydd y Cymro, Rowe, yn gobeithio cynnal ei safon ar drydydd diwrnod y rasio fory wrth iddynt seiclo o Silkeborg i Veijl – taith o 185km.