Mae amddiffynnwr Cymru Darcy Blake wedi cadarnhau ei fod yn symud o Gaerdydd i Crystal Palace.

Gwrthododd Blake gynnig gan Gaerdydd i ymestyn ei gytundeb â’r clwb yn gynharach y mis yma ac mae wedi trydar ei fod wedi cwblhau’r trosglwyddiad i Barc Selhurst yn Llundain.

Dywedodd ar ei gyfrif Twitter ei fod wedi “mwynhau pob munud yn chwarae i Gaerdydd,” ond ei fod yn barod am “ddechreuad newydd.”

Dechreuodd y chwaraewr 23 oed ei yrfa gyda Chaerdydd ac mae adroddiadau ei fod wedi mynd mewn dêl gwerth £350,000.

Mae’r amddiffynnwr yn rhan allweddol o dîm Cymru ac yn ddewis cyntaf i’r rheolwr Chris Coleman ynghanol yr amddiffyn.

Ddoe cadarnhaodd Caerdydd eu bod nhw wedi arwyddo amddiffynnwr QPR Matthew Connolly.