Warren Gatland
Mae rheolwr Cymru Warren Gatland wedi dweud ei fod wedi dod i gytundeb gyda’r Llewod a fydd yn caniatáu iddo fod yn gyfrifol am ddwy o gemau rhyngwladol Cymru ym mis Hydref.

Mae Gatland, 48 oed, ar fin cael ei benodi ym mis Medi fel rheolwr y Llewod ar gyfer y daith i Awstralia yn 2013.

Roedd y Llewod eisiau i Gatland ildio ei rôl gyda Chymru am flwyddyn, ond dywedodd Gatland y bydd yn gyfrifol am y gemau mis Hydref yn erbyn Seland Newydd ac Awstralia.

‘‘Nid oes unrhyw lofnod i lawr ar y papur eto, ond mae’n agos iawn,’’ meddai Warren Gatland.

Am gyfnod hir, Gatland oedd y ffefryn i fod yn rheolwr ar y Llewod, a chyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru yn ôl ym mis Mawrth y byddai Warren Gatland yn cael ei ryddhau o’i gytundeb pe bai’n cael y cynnig i reoli’r Llewod.

Os mai Gatland fydd yn cael ei benodi fel rheolwr nesaf y Llewod, fe fydd yr ail ddyn o Seland Newydd i reoli’r Llewod, yn dilyn taith aflwyddiannus Graham Henry yn 2001.