Michael Laudrup
Mae disgwyl i Ki Sung-Yeung fod yng Nghymru yfory i gwblhau ei gytundeb o £5 miliwn a mwy o Celtic i Abertawe.
Mae’n debyg bod Ki wedi cytuno ar delerau a fydd yn ei wneud yn un o’r chwaraewyr sy’n ennill y cyflog mwyaf yn y Liberty.
‘‘Rydym wedi cytuno gymaint ag y gallwn gyda Ki, mae bellach yn fater iddo ddod yma i gwblhau pethau,’’ meddai Huw Jenkins, Cadeirydd Abertawe.
Gall cytundeb arall ddigwydd wrth i Abertawe barhau i fynd ar ôl Pablo Hernandez.
Mae’n ymddangos bellach bod yr asgellwr o Valencia yn awyddus iawn i ymuno ag Abertawe, ond nid yw ei hyfforddwr, Mauricio Pellegrino, am i’r cytundeb ddigwydd.
Mae adroddiadau yn Sbaen yn awgrymu bod Hernandez wedi dweud wrth Valencia ei bod am ymuno â’r Elyrch, ac mae ei asiant yn sicr y bydd yr Elyrch yn talu’r pris.
Wedi dweud hyn, mae Jenkins yn gwadu unrhyw adroddiadau ynglŷn â’r chwaraewr 27 oed.
Chwaraewyr eraill sy’n gysylltiedig ag Abertawe yw Marvin Emnes (cyn chwarewr Abertawe), Albert Adomah (Bristol City) a Tom Ince (Blackpool).
Mae Laudrup eisiau Hernandez yn ei dîm yn sicr, ac wedi dweud y byddai yn mynd i chwilio am chwarewr arall pe bai Sinclair yn gadael.