Warren Gatland
Yn ol Paul O’Connell, y dyn a fu’n gapten y tro diwethaf ar y Llewod, Warren Gatland yw’r dyn i arwain y Llewod Prydeinig a Gwyddelig i fuddugoliaeth yn Awstralia.

Mae disgwyl i reolwr Cymru Warren Gatland cael ei gadarnhau fel rheolwr y Llewod yn yr wythnosau nesaf.

Dywedodd y cawr o Munster bod Gatland yn ddyn craff, galluog ac wedi dangos ei allu i gael y gorau allan o’i chwaraewyr trwy arwain Cymru i ddwy Gamp Lawn.

‘‘Mae’n anodd iawn i ennill ar daith y Llewod.  Mae’n bwysig dewis y bobl orau i reoli ac i annog y chwaraewyr i wneud eu gorau,’’ meddai O’Connell.

Ar ôl colli yn Seland Newydd yn 2005 a De Affrica yn 2009, byddai O’Connell wrth ei fodd i orffen ei yrfa drwy fod yn rhan o garfan fuddugol.

Ar ôl colli taith Iwerddon i Seland Newydd yr haf hwn oherwydd anaf i’w ben-glin, mae O’Connell sydd bellach wedi ennill 85 cap rhyngwladol, yn ysu i ddychwelyd i’r cae rygbi.

‘‘Mae’n rhaid i chi berfformio’n dda er mwyn y tîm.  Wrth wneud hynny credaf y bydd anrhydeddau unigol yn dod i’r chwaraewr.  Ond wedi dweud hynny, rwyf yn bendant yn credu y gall y Llewod ennill yn Awstralia’r flwyddyn nesaf,’’ meddai’r clo rhyngwladol.