Mae robot ‘Curiosity’ Nasa wedi cyhoeddi’r lluniau lliw cyntaf o’i daith i wyneb y Blaned Mawrth – gan gynnwys delwedd o grater Gale lle mae wedi glanio.
Glaniodd y crwydryn, sydd wedi ei bweru gan ynni niwclear, ar y blaned ddydd Sul ar ôl taith wyth mis drwy’r gofod.
Yn ystod cynhadledd o’r wasg yng Nghaliffornia, dywedodd swyddogion Nasa y byddai’r delweddau newydd yn hollbwysig wrth roi gwybod iddyn nhw sut y ffurfiwyd tirlun y blaned goch.
“Mae’r delweddau wedi rhoi’r awgrym gyntaf i ni o sut beth yw’r tirlun, sut y ffurfiwyd o, a beth allen ni ei weld sydd o gymorth i ni wrth ddeall hynny,” meddai’r gwyddonydd Dawn Summer.
Bydd y robot chwilfrydig yn dechrau crwydro o fewn yr wythnosau nesaf, ac yna’n anelu at y mynydd 5km o uchder sydd ynghanol y crater.