Arwyneb y blaned Mawrth
Mae gwyddonwyr yn gobeithio y bydd cerbyd sy’n pwyso tunnell ac sydd cymaint â Mini Cooper yn glanio ar y blaned Mawrth am 6.30 fore yfory.
Mae dwy ymgais o bob tair i lanio cerbydau ar y blaned wedi methu, gan gynnwys y Beagle 2 o Brydain a aeth ar goll ddydd Nadolig 2003.
Yr ymgais ddiweddaraf, i lanio’r robot chwe olwyn £1.59 biliwn, Curiosity, yw’r un fwyaf uchelgeisiol erioed.
Oherwydd ei faint a’i bwysau, mae cael y cerbyd ar dir Mawrth wedi bod yn her fawr i wyddonwyr Nasa, asiantaeth ofod yr Unol Daleithiau.
Fe fydd yn cael ei ollwng ar raffau o neilon o fath o graen yn yr awyr o’r llong ofod.
Mae Curiosity yn llawn offer soffistigedig i godi pridd a thyllu i greigiau er mwyn ceisio darganfod a fu bywyd erioed ar y blaned goch.