Kofi Annan
Mae Kofi Annan wedi rhoi’r gorau i’w rol fel Llysgennad arbennig y Cenhedloedd Unedig yn Syria.

Fe gyhoeddodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon, nad oedd Kofi Annan am barhau yn ei swydd sy’n dod i ben ar ddiwedd y mis.

Roedd Kofi Annan yn gyfrifol am lunio cynllun heddwch ar gyfer Syria er mwyn ceisio dod â’r trais yno i ben.

Ond nid oedd y naill ochr wedi cadw at y cynllun heddwch ac mae’r tywallt gwaed yno wedi parhau.

Dywedodd Ban Ki-moon bod Kofi Annan yn haeddu “ein hedmygedd” am geisio mynd i’r afael â thasg mor anodd.

Ychwanegodd ei fod yn cynnal trafodaethau gyda’r Cynghrair Arabaidd er mwyn dod o hyd i olynydd i barhau â’r gwaith o geisio dod â heddwch i’r wlad.

Beirniadu’r Cyngor Diogelwch

Mewn cynhadledd i’r wasg yn Genefa prynhawn ma, roedd Kofi Annan yn hynod feirniadol o fethiant y Cyngor Diogelwch i gytuno ar fesurau i ddod â’r trais i ben.  Mae Rwsia a Tsieina wedi gwrthod ymuno â’r UDA, Prydain a Ffrainc yn eu condemniad o lwyodraeth Syria. Dywedodd Kofi Annan nad oedd wedi cael digon o gefnogaeth gan y Cyngor Diogelwch yn ei rol.

Amcangyfrifir bod 20,000 o bobl wedi eu lladd ers i brotestiadau gan wrthryfelwyr sy’n gwrthwynebu llywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad ddechrau ym mis Mawrth y llynedd. Mae degau o filoedd o bobl wedi ffoi o’r wlad.