Llwyddodd llanc 11 oed i hedfan o Faes Awyr Manceinion i Rufain heb fod ganddo basbort na thocyn, datgelwyd heddiw.

Fe aeth Liam Corcoran drwy’r adran ddiogelwch heb i unrhyw un wirio ei docyn, cyn dringo ar awyren Jet2.com ddoe.

“Mae hyn yn fater hynod o ddifrifol ac mae’r maes awyr a’r cwmni hedfan yn ymchwilio iddo ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran Maes Awyr Manceinion.

“Mae’n amlwg na chafodd dogfennau eu gwirio yn gywir yn yr adran ddiogelwch na chwaith wrth y giât cyn mynd ar yr awyren.

“Serch hynny roedd wedi mynd drwy’r adran ddiogelwch felly nid oedd yn fygythiad i’r teithwyr na’r awyren.

“Rydyn ni’n paratoi i’w ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig mewn modd na fydd yn achosi mwy o ffwdan i’w deulu.”