James Holmes
Dywed yr heddlu fod James Holmes, y dyn sydd wedi ei gyhuddo o’r gyflafan mewn sinema oedd yn dangos y ffilm Batman ddiweddaraf yn Denver, Colorado, yn gwrthod cydweithredu â’r awdurdodau.

Dywedodd Pennaeth Heddlu Aurora, Dan Oates, bod y cyn-fyfyriwr 24 oed yn gwrthod siarad, a’i fod wedi derbyn cyngor cyfreithiol.

Fe arestiwyd James Holmes wedi iddo gyflawni un o’r troseddau mwyaf gwaedlyd yn hanes yr Unol Daleithiau, pan saethodd at gynulleidfa mewn sinema, gan ladd 12 o bobol.

Roedd y meirw yn cynnwys un ferch fach, Veronica Moser, oedd yn 6 oed.

Cafodd 58 o bobl hefyd eu hanafu ac mae o leiaf saith mewn cyflwr difrifol.

Yn ôl adroddiadau roedd dyn yn gwisgo mwgwd wrth iddo saethu at y dorf yn ystod y ffilm The Dark Night Rises yn ardal Aurora yn ninas Denver.

Dywedodd Dan Oates y gallai gymryd misoedd cyn penderfynu pam fod y dyn wedi trefnu’r ymosodiad, a bod yr heddlu yn gweithio gydag arbenigwyr ymddygiadol yr FBI

Mae Mam Veronica, Ashley Moser, hefyd yn yr uned gofal dwys. Cafodd ei saethu yn ei gwddf a’i stumog. Dyw hi ddim yn gwybod eto bod ei merch wedi marw.

Bydd James Holmes yn ymddangos yn y llys nes ymlaen heddiw.