Y gofeb dros dro ger y sinema yn Colorado
Mae’r heddlu yn Aurora, Colorado wedi cadarnhau bod cynllun gwr 24 oed i saethu at y gynulleidfa yn nangosiad cyntaf y film Batman “The Dark Knight Rises” yn y sinema leol ar y gweill ers misoedd.

Roedd James Holmes wedi bod yn archebu gynnau, cemegau a ffrwydron trwy’r post a phrynu miloedd o fwledi dros y we ers pedwar mis er mwyn achosi’r gyflafan yn y sinema a gosod trapiau yn ei fflat yn Denver meddai Pennaeth Heddlu Aurora, Dan Oates.

“Mae’r holl barseli ddaeth i’w gartref a’i waith yn dystiolaeth o gynllunio bwriadol,” meddai ond gwrthododd roi unrhyw awgrym am beth achosodd i James Holmes i weithredu fel y gwnaeth.

Mae Holmes yn cael ei gadw ar wahan er ei lês ei hun yn y carchar ond fe fydd yn ymddangos gerbron llys yfory.

Mae crwner Aurora wedi cadarnhau mai 12 o bobl a phlant laddwyd yn ystod y gyflafan. Roedd un ferch fach, Veronica Moser ,  yn ddim ond 6 oed a gwr arall laddwyd, Matt McQuinn, yn y sinema i ddathlu’i benblwydd yn 27.

Cafodd 58 o bobl eu hanafu ac mae o leiaf saith mewn cyfrol difrifol. Mae Mam Veronica, Ashley Moser yn yr uned gofal dwys wedi iddi gael ei saethu yn ei gwddf a’i stumog. Dyw hi ddim yn gwybod eto bod ei merch wedi marw.

Mae cannoedd o bobl wedi heidio i’r sinema i greu cofeb dros dro gan adael blodau a chynnau canhwyllau yno i gofio am y rhai laddwyd.

Fe gymerodd yr heddlu ddeuddydd i glirio fflat Holmes yn Denever o drapiau ffrwydrol oedd wedi eu gosod meddai Dan Oates “i ladd pwy bynnag fuasai wedi mentro i mewn yno” gan ychwanegu mai un o’i swyddogion ef o’r heddlu fuasai yn ôl pob tebyg wedi cael ei ladd neu’i anafu.