Canolfan Dewi Sant, Caerdydd
Mae’r deddfau ynglyn â masnachu ar y Sul wedi cael eu hatal dros dro o heddiw tan diwedd y gemau Olympaidd a Pharaolympaidd ar 9 Medi.
Dywed llywodraeth San Steffan y bydd caniatau i siopau aros ar agor am gyfnodau hirach yn rhoi cyfle i’r gwerthwyr wneud miliynau o bunnau yn rhagor o elw yn ystod cyfnod y gemau.
Bydd gweithwyr siopau beth bynnag yn cael parhau i wrthod gweithio ar y Sul.
Ar hyn o bryd mae siopau sydd dros 280 medr sgwâr yn cael agor am hyd at chwe awr ar ddydd Sul rhwng 10.00 y bore a 6.00 yr hwyr.
Dywedodd y Canghellor George Osbourne y bydd y mesur yma yn gymorth i gael y budd economaidd gorau allan o’r gemau ac ychwanegodd y Gweinidog Busnes, Norman Lamb bod hyn yn gyfle euraid.
“Dyma gyfle gwych i arddangos nid yn unig Llundain ond hefyd weddill y wlad i weddill y byd a rhoi hwb i’r economi, gwerthiant a chyflogaeth.”
Anghytuno
Mae eraill yn y byd masnachu yn anghytuno efo’r cam yma. Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas y Siopau Cyfleus y bydd atal y deddfau yn hudo siopwyr oddi wrth y siopau bach at y cwmniau mawr gan gostio miliynau iddyn nhw.
Mae undeb y gweithwyr siopau USDAW a’r Ymgyrch i Warchod y Sul wedi dweud y bydd y mesur yma yn creu cynsail.
“Mae’r llwyodraeth wedi methu gwneud achos busnes rhesymegol dros yr atal a does yna ddim tystiolaeth y bydd hyn yn hwb i’r economi na thwristiaeth,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol USDAW, John Hannett.