Mae bom wedi difetha 22 o danceri Nato a oedd yn cludo nwyddau i luoedd y cynghreiriaid.
Cafodd y cerbydau eu taro gan y bom a gafodd ei blannu gan y Taliban yn nhalaith Samangan, wrth iddyn nhw deithio o Wsbecistan tuag at dde Affganistan.
Mae’r tân a gafodd ei achosi gan y ffrwydrad yn dal ynghyn.
Mae yna adroddiadau bod y bom wedi cael ei osod o dan un o’r cerbydau.
Ychydig o bobl a oedd yn yr ardal ar y pryd, a does yna ddim adroddiadau am unrhyw anafiadau.