Bu cynnydd o 2,000 yn nifer y di-waith yng Nghymru, ond mae’r nifer trwy Brydain gyfan wedi disgyn.
Mae bellach 133,000 o bobol yn ddi-waith yng Nghymru, sef 9% o’r boblogaeth, o gymharu gyda 131,000 ym mis Chwefror.
Dywed Plaid Cymru fod y ffigurau yn “dangos na all pleidiau Llundain sicrhau adferiad economaidd i Gymru.”
Mae diwethdra ar lefel Brydeinig ar ei isaf ers blwyddyn a bellach yn 2.58 miliwn, sef 8.1%. Yn yr Alban mae 8.2% o’r boblogaeth yn ddi-waith ac yng Ngogledd Iwerddon 7.1% o’r bobol sy’n ddiwaith.
Dywedodd Chris Grayling, Gweinidog Cyflogaeth San Steffan, fod y ffigurau’n dangos fod y wlad yn “symud i’r cyfeiriad cywir.”
Ond mae diwethdra tymor-hir wedi codi ym Mhrydain gyda’r rheiny sydd wedi bod yn ddi-waith ers dwy flynedd neu fwy yn codi i 441,000 – cynnydd o 18,000 a’r ffigwr gwaethaf ers 1997.