Cafwyd hyd i weddillion corff y peilot Awyr Lefftenant Adam Sanders heddiw, dros bythefnos ers i ddamwain rhwng dwy awyren yn yr Alban ladd tri.
Roedd Adam Sanders, 27, wedi bod ar goll ers y digwyddiad.
Roedd yn un o beilotiaid yr Awyrlu a fu farw pan fu’r ddwy awyren jet mewn gwrthdrawiad uwchben y Moray Firth yn yr Alban yn ystod ymarfer.
Cadarnhaodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ei bod yn y broses o adnabod gweddillion ychwanegol a oedd wedi eu hadfer o’r diwgyddiad.
Angladd peilot o Gymru
Fe fydd angladd yr Awyr Lefftenant Hywel Tomos Poole, 28, a chyn disgybl yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, yn cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Bangor heddiw.
Cafodd Hywel Poole ei achub o’r safle lle bu’r ddamwain a’i gludo i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach.
Yn ogystal, bu farw Pennaeth Sgwadron Samuel Bailey, 36, o Nottingham yn y ddamwain.
Cafodd person arall eu hanafu ac mae mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty.
Mae ymchwiliad wedi dechrau i achos y ddamwain.