Mae 500 o swyddi yn y fantol ar ôl i’r cwmni dillad Ethel Austin gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr am y pedwerydd tro.
Daw’r cyhoeddiad bod y cwmni bellach yn nwylo’r gweinyddwyr Duff & Phelps flwyddyn ar ôl i Ethel Austin gael ei achub gan Sue Townsend.
Dywedodd Duff & Phelps bod ’na bosibilrwydd y bydd siopau’n cau a diswyddiadau ond maen nhw’n parhau i chwilio am brynwr i’r busnes.
Cafodd y cwmni ei sefydlu yn Lerpwl yn 1934 ond mae wedi wynebu cyfnod anodd oherwydd y dirwasgiad a chystadleuaeth gan gwmnïau eraill fel Primark a Matalan.
Mae’r cwmni eisoes wedi cau cannoedd o’i siopau ac wedi diswyddo miloedd o staff ers cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr yn 2008.