Mae dyn oedrannus wedi cael ei arestio ar amheuaeth o chwarae rhan mewn troseddau rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Cafodd Ladislaus Csizsik-Csatary, sy’n 97 oed, ei ddarganfod yn byw yn ninas Budapest gan gorff sy’n ymgyrchu dros hawliau Iddewon.

Mae’n cael ei amau o anfon mwy na 15,000 o bobl i Auschwitz yng ngwanwyn 1944.

Cafodd ei ddedfrydu i farwolaeth ym 1948 mewn llys yn Tsiecoslofacia, ond llwyddodd i ffoi i Ganada.

Collodd ei hawl i fyw yn y wlad ar ôl i’r awdurdodau ei ddarganfod yno ym 1997, a diflannodd unwaith eto.