Lesley Griffiths
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, nad oedd hi, na’i swyddogion ychwaith, wedi dylanwadu ar yr adroddiad allweddol am ad-drefnu’r gwasanaethau iechyd.
Roedd Lesley Griffiths yn ateb cwestiynau o flaen y pwyllgor iechyd ynglŷn â honiadau bod swyddogion y Llywodraeth wedi lliwio’r adroddiad.
Mae’r Gweinidog Iechyd yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn ei herbyn nes ymlaen heddiw.
“Mae clinigwyr a swyddogion y Gwasanaeth Iechyd wedi’i ffieiddio fod trafodaethau dros wasanaeth iechyd y dyfodol yn cael ei amharu gan gwpl o eiriau mewn e-byst,” meddai Lesley Griffiths.
Awgrymodd y Gweinidog Iechyd fod yn rhaid i’r trafodaethau am hygrededd yr adroddiad ddod i ben.
“Fedra i ddim cadw golwg ar e-byst fy holl swyddogion, fedra i ddim,” meddai’r Gweinidog Iechyd. “Mae’n rhaid i mi ymddiried yn fy swyddogion, ac mi ydw i’n ymddiried ynddyn nhw.”
Tystiolaeth yr Athro Longley
Dywedodd awdur yr adroddiad, yr Athro Marcus Longley wrth y pwyllgor iechyd bore ma nad oedd canfyddiadau’r adroddiad wedi cael eu gwneud yn fwy apelgar.
Gwrthododd yr Athro Longley honiadau ei fod wedi “cydgynllwynio” â gweision sifil.
Wrth roi tystiolaeth i Aelodau Cynulliad, amddiffynnodd annibyniaeth y broses ar ôl honiadau ei fod wedi cysylltu â swyddogion Llywodraeth Cymru.
Dywedodd nad oedd swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ceisio dylanwadu ar yr adroddiad.
“Hyd yn oed petai nhw wedi ceisio gwneud hynny, byddwn i heb ei ganiatáu, ond doedd dim y ffasiwn ymgais beth bynnag,” meddai.
Ychwanegodd yr Athro Longley ei fod wedi e-bostio swyddogion i ofyn am wybodaeth nad oedd ar gael yn gyhoeddus.
Ond mynnodd fod rhai termau a oedd wedi eu defnyddio yn yr e-byst wedi cael eu cymryd allan o gyd-destun.