Llun: Hywel Williams
Bydd Ysgol Gynradd Glyncorrwg yn ail-agor am 1pm ar ôl tirlithriad yn yr ardal y bore yma.

Cafodd yr ysgol a’r heolydd cyfagos eu cau yn dilyn y digwyddiad, ac mae teithwyr wedi cael eu rhybuddio i gadw draw am y tro.

Mae Cyngor Sir Castell Nedd Port Talbot wedi bod ar y safle yn Nyffryn Afan er mwyn asesu’r difrod.