Damascus
Mae adroddiadau bod Gweinidog Amddiffyn Syria, Daoud Rajiha, wedi cael ei ladd yn dilyn ymosodiad ar ganolfan ddiogelwch y wlad yn Damascus.

Mae cyfryngau’r wlad yn dweud bod gweinidogion a swyddogion diogelwch yn cwrdd y tu fewn i’r adeilad pan gafodd bom ei ffrwydro.

Mae rhannau o ranbarth Rawda ar gau.

Mae’r awdurdodau wedi dweud bod swyddogion diogelwch y wlad wedi brwydro yn erbyn ymosodiadau terfysgol.

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi bod yn ceisio dwyn perswâd ar Tsieina a Rwsia i gytuno ar fesurau cadarnach yn erbyn Syria, cyn i’r Cyngor Diogelwch bleidleisio ar y mater yn ddiweddarach heddiw.