Cafodd dau o bobl ifainc eu lladd ar ôl i wn gael ei danio at dorf o 200 bobl mewn parti yn Toronto.

Cafodd o leiaf 19 o bobl eraill, gan gynnwys plentyn, eu hanafu.

Mae’r heddlu’n apelio am lygad-dystion i’r digwyddiad ar ôl i adroddiadau awgrymu bod mwy nag un person wedi bod yn tanio gynnau at y dorf.

Mae un person yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Dywedodd yr heddlu yn Toronto mai dyma’r drosedd fwyaf difrifol yn y ddinas erioed.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad toc cyn 11yh yn ystod barbeciw.

Mae’n debyg bod ffrae wedi dechrau ymhlith rhai unigolion a bod gynnau wedi cael eu tanio, gan anafu nifer o bobl oedd yn y parti.

Cafodd merch yn ei harddegau a dyn yn ei ugeiniau eu lladd.