Syr Mervyn King
Fe fydd Llywodraethwr Banc Lloegr Syr Mervyn King yn wynebu cwestiynau Aelodau Seneddol heddiw am ei ymdrechion i hybu’r economi.
Fe fydd yn cael ei holi gan aelodau o Bwyllgor y Trysorlys ddiwrnod ar ôl i’r Gronfa Ariannol Rynglwadol ostwng rhagolygon tŵf y DU i 0.2% ar gyfer 2012 a 1.4% ar gyfer 2013.
Mae Mervyn King hefyd yn wynebu cwestiynau am y ffordd roedd wedi mynd i’r afael â’r helynt am gyfradd Libor. Daeth i’r amlwg bod llywydd Gwarchodfa Ffederal yr UDA ar y pryd, Tim Geithner, wedi codi pryderon am y gyfradd nôl ym 2008.