Fe fydd pennaeth cwmni diogelwch G4S dan bwysau i roi’r gorau i’w swydd heddiw wrth iddo baratoi i gael ei holi gan bwyllgor o Aelodau Seneddol ynglŷn â’r helynt am ddiogelwch yn ystod y Gemau Olympaidd.
Mae disgwyl i Aelodau Seneddol ofyn prif weithredwr y cwmni, Nick Buckles, sy’n ennill cyflog o £830,000 y flwyddyn, pam ei fod wedi methu â sicrhau digon o swyddogion diogelwch ar gyfer y Gemau.
Fe fydd yn wynebu cwestiynau gan yr Aelod Seneddol Llafur Keith Vaz, cadeirydd pwyllgor materion cartref y Senedd, sydd wedi cyhuddo’r cwmni o siomi’r wlad.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May ddoe bod G4S wedi sicrhau gweinidogion dros ar ôl tro y gallen nhw ddarparu digon o swyddogion diogelwch, a dim ond wythnos ddiwethaf naethon nhw gyfaddef na allen nhw gyflawni’r cytundeb.
Fe allai Nick Buckles, 51, gael cyflog a thaliadau bonws o hyd at £20 miliwn os yw’n cael ei orfodi i adael ei swydd.
Roedd cyfranddaliadau G4S wedi gostwng 10% ddoe o ganlyniad i’r helynt ac mae disgwyl i’r cwmni wneud colledion o £50 miliwn o ganlyniad i’r cytundeb.
Heddlu De Cymru
Ddoe fe gyhoeddwyd y bydd plismyn o dde Cymru ymhlith naw o heddluoedd sy’n cael eu hanfon i lenwi’r bylchau yn y trefniadau diogelwch ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May y byddai plismyn o naw o heddluoedd yn cael eu defnyddio fel swyddogion diogelwch yn ogystal â’r 3,500 o filwyr ychwanegol.
Mae’r heddluoedd eraill yn cynnwys Dorset, Surrey, Sir Hertford, Northumbria, Strathclyde, West Midlands, heddlu Thames Valley, a Manceinion.
Gyda llai na phythefnos i fynd cyn y seremoni agoriadol, mae gweinidogion yn mynnu y bydd yn Gemau yn ddiogel.
Yn y cyfamser roedd y cystadleuwyr cyntaf wedi cyrraedd y Pentref Athletwyr ddoe.