Mae Gwyddel wedi ei garcharu am chwe mis am binsho pen-ôl dynes mewn bar yn Dubai.

Roedd y ddedfryd yn un “wallgof” yn ôl y dyn busnes Steven Sherriff.

Mae’n debyg iddo gyffwrdd pen-ôl dynes 23 oed a chael ei gnocio’n anymwybodol gan ei chariad.

Yn wreiddiol o Belffast, mae Sherriff wedi byw yn Dubai ers saith mlynedd yn gwerthu paent awyrennau. Daw ei wraig o Ddenmarc ac mae hi’n teithio i Dubai unwaith y mis i’w weld.