Roedd yr awdurdodau yn Rwsia wedi methu â rhoi rhybudd digonol i drigolion yn ardal y Môr Du am lifogydd lle mae o leiaf 171 o bobl wedi marw, yn ôl gweinidog yn y wlad.

Roedd glaw trwm a llifogydd ddydd Sadwrn yn Krymsk a threfi cyfagos wedi difrodi nifer o gartrefi tra roedd nifer yn cysgu.

Yn ôl asiantaeth newyddion Rwsia, roedd Vladimir Puchkov wedi dweud fod ei weinyddiaeth wedi rhybuddio am lifogydd ond nad oedden nhw’n ddigonol i gyrraedd pawb mewn pryd.

Mae nifer o’r trigolion lleol wedi dweud nad oedden nhw wedi cael rhybudd cyn y llifogydd.