Mae disgwyl i bleidlais hanesyddol i gyflwyno esgobion benywaidd gael ei gohirio heddiw oherwydd anghydweld o fewn Eglwys Loegr ynglŷn â’r mater.

Mae disgwyl i gyfarfod Synod Cyffredinol Eglwys Loegr ym Mhrifysgol Caerefrog, i drafod rhoi sel bendith i esgobion benywaidd, gael ei ohirio yn dilyn protestiadau gan ymgyrchwyr o blaid y newid.

Mae’r gwrthdaro yn ymwneud â’r trefniadau ar gyfer traddodiadwyr mewn plwyfi sydd ddim yn fodlon derbyn esgob benywaidd.