Abdullah Gul
Mae Arlywydd Twrci wedi dweud ei bod hi’n anorfod y bydd ei wlad yn cymryd camau “angenrheidiol” yn erbyn Syria, ar ôl i awyren filwrol o Dwrci gael ei saethu i lawr gan awdurdodau’r wlad.
Dywedodd Abdullah Gul fod ei lywodraeth yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad.
Mae’r tensiwn rhwng y ddwy wlad wedi bod yn cynyddu ers y gwrthryfel yn Syria ym mis Mawrth y llynedd. Mae Twrci wedi beirniadu llywodraeth Syria yn hallt oherwydd eu hymateb treisgar i’r gwrthryfel yn y wlad.
Mae’r chwilio yn parhau am y ddau oedd yn teithio yn yr awyren.
Dywedodd yr Arlywydd hefyd ei bod hi’n bosib fod yr awyren wedi hedfan uwchben Syria heb ganiatâd cyn iddi ddymchwel i Fôr y Canoldir.