Bydd y beiciwr o fri Syr Chris Hoy a’r chwaraewr pêl-droed chwedlonol Syr Bobby Charlton yn cario’r fflam Olympaidd ar ei thaith drwy Fanceinion y penwythnos hwn.
Chris Hoy fydd yn cario’r fflam i mewn i ganol y ddinas heddiw, a bydd Bobby Charlton yn ei chario heibio stadiwm pêl-droed Old Trafford yfory.
Fe gyrhaeddodd y fflam dir Prydain ar Fai 18 a bydd ei thaith 70 diwrnod yn gorffen yn seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd ar Orffennaf 27. Yn ystod y daith 8,000 milltir, bydd 8,000 o bobl wedi cael y cyfle i gario’r fflam.