Martin McGuinness
Bydd y Frenhines a Martin McGuinness yn ysgwyd llaw yn ystod cyfarfod preifat yr wythnos nesaf.
Bydd Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, oedd yn un o benaethiaid yr IRA, a’r Frenhines yn cyfarfod dydd Mercher nesaf ym Melfast, o flaen digwyddiad yn Theatr y Lyric yn y ddinas i ddathlu’r celfyddydau. Mae ymweliad y Frenhines â Gogledd Iwerddon yn rhan o’r dathliadau sy’n nodi ei 60 mlynedd ar yr orsedd.
Bu Sinn Fein yn trafod am bedair awr yn Nulyn cyn penderfynu derbyn y gwahoddiad a estynnwyd i Martin McGuinness i gyfarfod â’r Frenhines.
Dywedodd llywydd Sinn Fein, Gerry Adams, fod eu penderfyniad yn un cywir. “Mae’n dda i Iwerddon,” meddai. “Mae’n dda ar gyfer y broses rydym yn ceisio ei datblygu.”
Lladdwyd cefnder y Frenhines, Iarll Mountbatten, gan fom a osodwyd gan yr IRA yn 1979.