Senedd Gwlad Groeg
Mae’r gorsafoedd pleidleisio wedi agor yng Ngwlad Groeg ar gyfer etholiadau all benderfynu os y bydd y wlad yn aros yn rhan o barth yr Ewro ai pheidio.

Dyw’r gyfraith yng Ngwlad Groeg ddim yn caniatau cynnal arolygon barn o fewn bythefnos i etholiad ond mae’n ymddangos bod dwy blaid ar y blaen, sef y blaid adain dde, Democratiaeth Newydd, a’r blaid adain chwith, Syriza.

Mae gan y ddwy blaid yma safbwyntiau pendant iawn ar yr argyfwng economiadd sy’n wynebu Groeg a pherthynas y wlad efo Ewrop.

Dywedodd arweinydd Democratiaeth Newydd, Antonis Samaras, y bydd yn arwain y wlad allan o’r argyfwng economaidd tra’n parhau i ddefnyddio’r Ewro.

“Fyddwn ni ddim yn gadael yr argyfwng; fyddwn ni ddim yn gadael yr Ewro. Fyddwn ni ddim yn gadael i unrhyw un ein tynnu ni allan o Ewrop,” meddai mewn rali echdoe.

Mae arweinydd Syrzia, Alexis Tsipras ar y llaw arall yn mynnu bod modd cadw’r Ewro tra’n gwrthod y cynllun cymorth sydd wedi achosi cymaint o dorriadau a chwtogi ariannol yng ngwlad Groeg.

“Mae Brwsel yn ein disgwyl ni ac fe fyddwn ni yno dydd Llun i ail negydu dros hawliau pobl a chanslo’r cynllun cymorth,” meddai yn ystod rali olaf y blaid dydd Iau diwethaf.

Dyma’r ail etholiad o fewn chwech wythnos yng ngwlad Groeg gan nad oedd canlyniad clir ar ôl yr etholiad diwethaf ar 6 Mai.

Mae llawer yng Ngwlad Groeg yn anfodlon iawn efo effaith y cynllun cymorth rhyngwladol sydd wedi cyfrannu biliynau o arian i dalu dyledion y wlad a chadw Groeg rhag mynd yn fethdalwr.

Mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi pwylseisio ei bod yn tu hwnt o bwysig bod Gwlad Groeg yn cadw at delerau’r cynllun cymorth.

“Mae’n bwysig iawn bod yr etholiadau yng Ngwlad Groeg yn arwain at ganlyniad fydd yn caniatau i’r rhai fydd yn ffurfio’r llywodraeth ddweud. “Byddwn, fe fyddwn yn cadw at ein ymrwymiad’” meddai.