Mae caiacwr wedi marw prynhawn ʼma mewn digwyddiad ger Betws-y-Coed.

Mi gafodd yr heddlu eu galw yno am 3.31, ac maen nhw wedi dod o hyd i gorff yn Afon Conwy yn agos at Westy’r Fairy Glen. Roedd timau achub mynydd hefyd yn bresennol.

Does dim mwy o wybodaeth ar hyn o bryd.