Mae pennaeth Cenhadaeth Sefydlogrwydd y Cenhedloedd Unedig yn Syria (UNSMIS) wedi dweud fod y genhadaeth wedi ei hatal oherwydd bod y trais yn y wlad yn cynyddu.

Dywedodd y Cadfridog Robert Mood, sy’n dod o Norwy, fod patrolau’r arsylwyr yn dod i ben am y tro ac y byddent yn aros yn eu lleoliadau presennol.

Ond dywedodd eu bod nhw’n parhau â’r nod o ddod â’r trais yn y wlad i ben.

Mae honiadau heddiw fod milwyr wedi bod yn ymosod ar rannau o Homs a Damascus ac fe gafodd o leia’ saith o bobl eu lladd yn Douma, maestref yn y brifddinas, dros nos.

Dywedodd y Cadfridog Moon y byddai’r sefyllfa yn cael ei hadolygu’n ddyddiol.

Mae 298 o arsylwyr milwrol a 112 o staff sifil yn rhan o’r genhadaeth sy’n ceisio cadarnhau bod y ddwy ochor yn cadw at gynllun heddwch Kofi Annan.