Turgut Ozal
Roedd marwolaeth Arlywydd Twrci yn 1993 “yn un drwgdybus” a dylid ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd, yn ôl adroddiad gan balas arlywyddol y wlad.
Cyhoeddwyd yr adroddiad gan Fwrdd Archwilio’r Wladwriaeth, sy’n atebol i’r arlywydd presennol, Abdullah Gul.
Dywed yr adroddiad nad oes unrhyw esboniad boddhaol wedi bod am farwolaeth Turgut Ozal yn 1993.
Mae aelodau o’i deulu a gwleidyddion wedi honni ei fod wedi ei wenwyno.
Yn ôl yr adroddiad dylid cynnal prawf fforensig ac archwilio darnau o wallt y cyn-arlywydd er mwyn cael gwybod a yw’r honiadau’n wir.
Pan fu farw Turgut Ozal roedd doctoriaid yn dweud iddo farw o drawiad ar y galon. Roedd wedi cael llawdriniaeth ddargyfeiriol driphlyg yn 1987.
Roedd Turgut Ozal o dras Cyrdaidd ac wedi ceisio atal gwrthryfel gan drigolion o Gyrdistan oedd eisiau annibyniaeth i’w rhanbarth yn ne-ddwyrain y wlad.
Yn ogystal â hynny roedd wedi hybu polisïau o blaid cysylltiadau cryfach â gwledydd y gorllewin yn dilyn ei etholiad yn 1989.