Car Saab
Mae cwmni sy’n creu ceir trydanol wedi arwyddo cytundeb i brynu mwyafrif cwmni Saab o Sweden.

Mae’r cydgwmni sydd wedi prynu Saab, National Electric Vehicle Sweden AB, yn eiddo i fuddsoddwyr o Hong Kong a Japan.

Fe aeth cwmni Saab Automobile yn fethdalwr y llynedd.

Dyw National Electric Vehicle Sweden AB ddim wedi cyhoeddi faint maen nhw wedi ei dalu am adran cynhyrchu ceir ac offer Saab.

Mae’r cydgwmni yn eiddo o National Modern Energy Holdings i Hong Kong a Sun Investment LLC o Japan.

Cafodd ei greu er mwyn gwneud cais am Saab, sydd wedi ei sefydlu yn Trollhattan yng ngorllewin Sweden.