Mae’r Eisteddfod wedi cyhoeddi rhagor o fanylion heddiw ynglŷn â gŵyl Maes C a fydd yn digwydd ar Faes y Brifwyl eleni am y tro cyntaf erioed.

Fe fydd y gweithgareddau’n cychwyn am ddiwedd y prynhawn, a nifer ohonyn nhw’n rhad ac am ddim i rai sydd â thocyn i Faes yr Eisteddfod. Y bwriad yw gwneud gwell defnydd o adnoddau ac adeiladau presennol yr Eisteddfod.

Dywedodd  Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, “Rydan ni wedi bod eisiau arbrofi gyda Maes B a Maes C dros y blynyddoedd diwethaf, ac eleni, rydym wedi cael y cyfle i wneud pethau’n wahanol.

“Rydym wedi gweld bod mwy a mwy o Eisteddfodwyr yn awyddus i aros ar y Maes gyda’r nos, i fwynhau’r awyrgylch gŵyl sy’n bodoli yma, felly dyma benderfynu canoli’r rhan fwyaf o’n gweithgareddau yma er mwyn eu gwneud mor hygyrch â phosibl i bawb.

“Mae gennym ni nifer fawr o adeiladau ar y Maes, a llawer o’r rheini’n wag gyda’r nos, felly dyma benderfynu mynd ati i edrych ar Maes C o’r newydd a rhoi cartref i’n gweithgareddau ar hyd a lled y Maes.  Bydd gweithgareddau Maes C yn digwydd yn Y Theatr, Dawns, Y Babell Lên, ar y Llwyfan Perfformio, ac am y tro cyntaf, yn y Pafiliwn hefyd.  Rydym wedi cyhoeddi’r amserlen lawn ar ein gwefan ac rwy’n mawr obeithio y bydd hi’n apelio at bobl o bob oed.”

Dafydd Iwan a Caryl Parry Jones

Mae’r gweithgareddau eleni’n cynnwys  nosweithiau torfol yn y Pafiliwn gyda Dafydd Iwan ar y nos Lun, Caryl Parry Jones ar y nos Iau, a Gala Gomedi Gymraeg ar nos Fawrth, i dwmpath teuluol yn Dawns ar nos Fercher gyda Tudur Philips oddi ar raglen Stwnsh yn ‘galw’, a gig fyw yn Y Babell Lên ddiwedd brynhawn Sul gyda Dona Direidi, Oli Odl a chriw Cyw, heb anghofio Y Stomp, a gynhelir eleni yn Y Babell Lên, nos Wener.

Bydd cerddoriaeth fyw ar y Llwyfan Perfformio ar ddiwedd y dydd a gyda’r nos, gydag artistiaid fel Huw Chiswell, Bob Delyn a’r Ebillion a Maffia Mr Huws yn perfformio fel rhan o arlwy Maes C.

“Bydd nifer o’r gweithgareddau’n rhad ac am ddim i unrhyw un gyda thocyn Maes,” meddai Elfed Roberts, “Ac os yw unrhyw un yn dymuno dod i’r Maes ar ôl 4.30yh, bydd mynediad ar gael am £5 yn unig.  Mae’n rhaid cael tocyn i rai o’r gweithgareddau, gan gynnwys Y Stomp, ac un neu ddwy o’r gigs mewn gwahanol adeiladau, ond rydym wedi gwneud ein gorau i gadw’r prisiau i lawr er mwyn annog cynifer o ymwelwyr â phosibl i fwynhau gweithgareddau Maes C eleni.

“Gobeithio y bydd Maes C ar ei newydd wedd yn apelio at ein cefnogwyr, ac y bydd y gweithgareddau’n llwyddiant eleni. Mae nifer fawr o bobl eisoes wedi bod yn gofyn am arlwy Maes C yn barod, a gobeithio y bydd yr hyn a gyhoeddir heddiw ac yn eich annog i aros ar y Maes gyda’r nos yn ystod yr Eisteddfod eleni.”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg ar dir hen faes awyr Llandw ger Y Bontfaen a Llanilltud Fawr o 4-11 Awst.  Am fwy o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.org.uk neu ffonio’r Linell Docynnau ar 0845 4090 800.