Gruff Rhys
Ar ôl antur epig yn chwilio am ei ewyrth o Dde America, Rene Griffiths, bydd Gruff Rhys yn dechrau ar daith dditectif arall wrth chwilio am fedd ei hen, hen ewyrth, Don Juan Evans.
Cofnodwyd taith ymchwiliadol gyntaf prif ganwr y Super Furry Animals ar ffurf y ffilm ‘Seperado!’ gan Dylan Goch.
Bydd y daith gerddorol ddiweddaraf yn dilyn ôl traed ei berthynas Don Juan Evans a adawodd Cymru ym 1792 i chwilio am lwyth o Americanwyr brodorol oedd yn ôl y sôn yn gallu’r Gymraeg.
Bu farw Don Juan, neu John Evans i ddefnyddio’i enw gwreiddiol yn 29 oed yn New Orleans yn yr Unol Daleithiau.
Roedd wedi glanio’n wreiddiol yn Baltimore, gan adael Pennsylvania ym 1794 cyn teithio ar hyd y Mississippi a threulio cyfnodau yn St Louis, Missouri a Gogledd Dakota.
Bydd Gruff Rhys yn gwneud cyfres o gigs ar y daith, ac unwaith eto bydd Dylan Goch yn dogfennu’r antur.
Yn y cyfamser mae Gruff Rhys yn annog unrhyw un sydd â chliwiau am anturiaethau Evans i ddod i’r sioeau. Mae croeso i’r cyhoedd hefyd wrth gwrs!
Dyddiadau taith ymchwiliadol Gruff Rhys:
2 Awst – New Haven, Llyfrgell Prifysgol CT Yale Beineke
4 Awst – Baltimore, MD Golden West Café
5 Awst – Philadelphia, PA PhilaMOCA
7 Awst – Pittsburgh, PA Club Cafe
9 Awst – Cincinnati, Canolfan Gelfyddyd Modern OH CAC Black Box Theatre
12 Awst – St. Louis, Canolfan Gelfyddyd Modern MO
14 Awst – Omaha, NE Slowdown Jr.
16 Awst – Columbia, Gwinllanoedd MO Les Bourgeois
18 Awst – Memphis, TN Hi-Tone
22 Awst – New Orleans, LA One-Eyed Jacks