Clawr Llwybrau Gwyn
Rhyddhawyd bocs-set o gynnyrch Tecwyn Ifan ar label Sain yr wythnos diwethaf dan yr enw Llwybrau Gwyn.
Mae’r casgliad cynhwysfawr yn cynnwys 107 o draciau sydd wedi eu rhyddhau gan Tecwyn Ifan fel artist unigol dros y blynyddoedd.
Ymysg rhain mae 7 o ganeuon newydd a recordiwyd yn stiwdio Sain ym mis Mawrth ac Ebrill eleni o dan ofal y cynhyrchydd Hefin Elis.
Mae Golwg360 wedi bod yn ddigon ffodus i gael caniatâd ecsgliwsif i rannu clipiau byr o’r rhain gyda’r genedl dros yr wythnos yma.
Ddoe fe wnaethom ni gyhoeddi’r trac cyntaf, sef ‘Dy Garu Di Sy Raid’ gyda chyflwyniad byr i’r gân gan Tecwyn Ifan ei hun.
Heddiw, dyma eiriau Tecs am yr ail drac, ‘March Haearn’ sydd ag arwyddocâd go arbennig i unrhyw un sy’n cofio’r grŵp Y Cyrff o Lanrwst.
“Mae wedi dod yn arferiad lled gyffredin ers tro bellach i osod beic wedi ei baentio’n wyn gerllaw lle mae damwain beic angheuol wedi digwydd.”
“Mae un o’r beiciau hyn i’w weld ger Llanrwst, yn dynodi’r fan lle lladdwyd Barry Cawley mewn damwain beic yn y flwyddyn 2000.”
“Roedd Barry yn gyn-aelod o grŵp Y Cyrff ac yn gysylltiedig â’r Catatonia cynnar.”